Tessa Jowell Brain Cancer Mission and Cancer Research Wales Announce New Partnership to Support Excellent Brain Tumour Care and Research in Wales

April 30, 2025

  • The Tessa Jowell Brain Cancer Mission (TJBCM) is excited to announce a new strategic partnership with Cancer Research Wales (CRW)
  • The partnership will provide a dedicated voice for Welsh patients on the Strategy Board of the TJBCM, the convening body of the UK brain tumour community, ensuring that UK-wide initiatives are informed by, and benefit, Welsh patients
  • The announcement comes on the back of CRW’s record investment in brain tumour research in Wales and the continued delivery of excellent brain tumour treatment and care in NHS Wales

The TJBCM is proud to announce a new strategic partnership with Cancer Research Wales (CRW) – the independent Welsh cancer research charity. CRW will join the Mission’s Joint Strategy Board, alongside the UK’s key brain tumour charities, national cancer charities, and key governmental organisations, ensuring a dedicated voice for Welsh brain tumour patients in UK-wide strategic initiatives.

CRW is the only charity dedicated to funding cancer research in Wales and has recently committed significant funding to brain tumours through the Brain Tumour Research Initiative (BATRI). Through this work, CRW are investing up to £1 million per year in establishing Wales as a world-leader in brain tumour research, building on the already outstanding treatment, care and research delivered by the NHS, universities and industry across Wales. This announcement therefore comes at a key moment for the Welsh brain tumour community.

A partnership with CRW will build on TJBCM’s close work with Welsh teams over many years. Clinical teams and researchers in Wales have worked closely with TJBCM since 2018, with Centres of Excellence in both the north and south of Wales and over 50 active members of the Tessa Jowell Academy. The TJBCM is delighted to be working with CRW to extend this work, building on a shared goal of improving outcomes, increasing equitable access to excellent treatment and accelerating research in Wales and across the UK.

The announcement marks the first dedicated voice for Wales in the TJBCM. Aligned with the TJBCM’s strategic aim to ensure equity between the UK’s four nations, the partnership ensures a dedicated voice for Welsh patients, clinicians and researchers on the TJBCM’s Joint Strategy Board, facilitating collaborations, ensuring UK-wide initiatives benefit Wales and that the excellence in Wales is shared with the rest of the UK.

Dr Nicky Huskens, TJBCM Chief Executive Officer, commented, “We are thrilled that Cancer Research Wales are joining our Joint Strategy Board. I am excited to build on the extensive experience of the CRW team to continue to improve equity and innovation in brain tumour research, treatment and care in Wales and across the UK.”

Dr Lee Campbell, Head of Research at CRW comments, “Following the launch of our Brain Tumour Research Initiative,  Cancer Research Wales is delighted to become a partner of the Tessa Jowell Brain Cancer Mission. As the Welsh cancer research charity, we felt it important that difficult to treat cancers such as brain tumours receive the necessary research investment that will ensure meaningful change and improvement in patient outcomes.

Our partnership with the Tessa Jowell Brain Cancer Mission will ensure brain tumour patients, clinicians, and researcher have a voice, and are represented at the national and international level.

This exciting collaboration will help the neuro-oncology and brain tumour communities in Wales benefit from the latest breakthroughs that research and innovation have to offer and bring new and better treatments and improved methods of care closer to home”.

Dr James Powell, Neuro-Oncology lead at Velindre University NHS Trust, said “this partnership between CRW and the TJBCM is fabulous news. We have worked closely with both organisations and bringing the two together in this way, collaborating with the clinical brain tumour service in Wales, will provide further impetus and improvement for brain tumour treatment and research in Wales. We hope that this will provide significant and ongoing benefits to patients with brain tumours in Wales in the coming years.”

Miss Kathrin Whitehouse, Consultant Neurosurgeon at University Hospital Wales, said: “This is a fantastic collaboration. CRW, through BATRI, are enhancing the ability for Welsh research to contribute to the worldwide knowledge of brain tumours, and hopefully provide opportunities for Welsh patients, and those across the world, to have access to improved treatments and care. It is therefore entirely sensible for them to partner with TJBCM, with this common mission and passion. I hope that this will also further add the Welsh voice to national discussions, from a research perspective in addition to the South and West Wales Tessa Jowell Centres of Excellence on the clinical side.”

Dr Jennifer Kahan, Consultant Neuro-Oncologist at the South West Wales Cancer Centre “It’s an exciting time for brain tumour research, and the collaboration between Cancer Research Wales and the Tessa Jowell Brain Cancer Mission offers opportunity for Wales to be part of the research and development. Having a strong patient voice and equitable opportunity to engage in UK-wide innovations will embed Wales and Welsh patients in the transformation of brain tumour care.”

About the Tessa Jowell Brain Cancer Mission

The Tessa Jowell Brain Cancer Mission (TJBCM) is dedicated to transforming brain tumour treatment and research in the UK. The TJBCM collaborates with government, academia, NHS, charities, and patient groups to accelerate research, advance precision medicine, improve care for brain tumour patients and train and connect the workforce.

About Cancer Research Wales

Cancer Research Wales is the Welsh cancer research charity, and the only charity wholly dedicated to funding cancer research in Wales. Almost 60 years of research has contributed to vast improvements in cancer services and better outcomes for countless people. Cancer Research Wales works to make sure the people of Wales do not have to accept cancer as a life-threatening disease, supporting the best cancer researchers and clinicians to make discoveries which will transform lives.

Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell ac Ymchwil Canser Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd i Gefnogi Gofal ac Ymchwil Rhagorol ar gyfer Tiwmorau’r Ymennydd yng Nghymru

  • Mae Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell (TJBCM) yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth strategol newydd gydag Ymchwil Canser Cymru.
  • Bydd y bartneriaeth yn rhoi llais penodol i gleifion Cymru ar Fwrdd Strategaeth TJBCM, sef corff cynnull y gymuned tiwmorau’r ymennydd yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn llywio mentrau ledled y Deyrnas Unedig ac yn elwa ohonynt
  • Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y buddsoddiad mwyaf erioed gan Ymchwil Canser Cymru mewn ymchwil tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru ac ymdrechion parhaus i ddarparu triniaeth a gofal rhagorol ar gyfer tiwmorau’r ymennydd yn GIG Cymru

Mae TJBCM yn falch o gyhoeddi partneriaeth strategol newydd gydag Ymchwil Canser Cymru  – yr elusen ymchwil canser Cymreig annibynnol. Bydd Ymchwil Canser Cymru  yn ymuno â Bwrdd Strategaeth ar y Cyd yr Ymgyrch, ochr yn ochr ag elusennau allweddol y Deyrnas Unedig ar gyfer tiwmorau’r ymennydd, elusennau canser cenedlaethol, a sefydliadau allweddol y llywodraeth, gan roi llais penodol i gleifion yng Nghymru sydd â thiwmor yr ymennydd mewn mentrau strategol ledled y Deyrnas Unedig.

Ymchwil Canser Cymru yw’r unig elusen sy’n canolbwyntio ar ariannu ymchwil canser yng Nghymru ac mae wedi ymrwymo swm sylweddol o gyllid i diwmorau’r ymennydd yn ddiweddar trwy’r Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI). Trwy’r gwaith hwn, mae  Ymchwil Canser Cymru yn buddsoddi hyd at £1 filiwn y flwyddyn mewn sefydlu Cymru fel arweinydd rhyngwladol ym maes ymchwil tiwmorau’r ymennydd, gan adeiladu ar y driniaeth, y gofal a’r ymchwil sydd eisoes yn rhagorol a ddarperir gan y GIG, prifysgolion a diwydiant ledled Cymru. Felly, daw’r cyhoeddiad hwn ar adeg allweddol i’r gymuned tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru.

Bydd partneriaeth ag Ymchwil Canser Cymru yn datblygu gwaith agos TJBCM gyda thimau yng Nghymru dros sawl blwyddyn. Mae timau clinigol ac ymchwilwyr yng Nghymru wedi gweithio’n agos gyda TJBCM ers 2018, gyda Chanolfannau Rhagoriaeth yng ngogledd a de Cymru a mwy na 50 o aelodau gweithredol o Academi Tessa Jowell. Mae TJBCM yn falch o fod yn gweithio gydag Ymchwil Canser Cymru i ymestyn y gwaith hwn, gan ddatblygu’r nod cyffredin o wella canlyniadau, cynyddu mynediad teg at driniaeth ragorol a chyflymu ymchwil yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r cyhoeddiad yn nodi’r llais penodol cyntaf i Gymru yn TJBCM. Gan gyd-fynd â nod strategol TJBCM o sicrhau tegwch rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig, mae’r bartneriaeth yn sicrhau llais penodol i gleifion, clinigwyr ac ymchwilwyr Cymru ar Fwrdd Strategaeth ar y Cyd TJBCM, gan hwyluso cydweithrediadau, a sicrhau bod mentrau ledled y Deyrnas Unedig yn fuddiol i Gymru a bod y rhagoriaeth yng Nghymru yn cael ei rhannu â gweddill y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Dr Nicky Huskens, Prif Swyddog Gweithredol TJBCM, “Rydym yn falch bod Ymchwil Canser Cymru yn ymuno â’n Bwrdd Strategaeth ar y Cyd. Rwy’n gyffrous i ychwanegu at brofiad helaeth tîm Ymchwil Canser Cymru i barhau i wella tegwch ac arloesedd ym maes ymchwil, triniaeth a gofal tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru, “Ar ôl lansio ein Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o ddod yn bartner Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell. Fel yr elusen ymchwil canser Gymreig, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig bod canserau anodd eu trin, fel tiwmorau’r ymennydd, yn cael y buddsoddiad angenrheidiol mewn ymchwil a fydd yn sicrhau newid ystyrlon a gwelliant mewn canlyniadau cleifion.

“Bydd ein partneriaeth ag Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell yn sicrhau bod cleifion, clinigwyr ac ymchwilwyr tiwmorau’r ymennydd yn cael llais, a’u bod yn cael eu cynrychioli ar lefel DU a rhyngwladol.

“Bydd y cydweithrediad cyffrous hwn yn helpu’r cymunedau niwro-oncoleg a thimorau’r ymennydd yng Nghymru i elwa o’r darganfyddiadau diweddaraf a gynigir gan ymchwil ac arloesedd a dod â thriniaethau newydd a gwell a dulliau gofal gwell yn agosach i gartref”.

Dywedodd Miss Kathrin Whitehouse, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: “Mae hwn yn gydweithrediad gwych rhwng Ymchwil Canser Cymru a Chenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell. Mae Ymchwil Canser Cymru , drwy BATRI, yn gwella’r gallu i ymchwil yng Nghymru gyfrannu at wybodaeth fyd-eang am diwmorau’r ymennydd, a gobeithio darparu cyfleoedd i gleifion Cymru, a’r rhai ledled y byd, gael mynediad at driniaethau a gofal gwell. Felly, mae’n gwbl synhwyrol iddynt bartneru â TJBCM, gyda’r genhadaeth a’r angerdd cyffredin hon. Rwy’n gobeithio y bydd hyn hefyd yn ychwanegu llais Cymru ymhellach at drafodaethau cenedlaethol, o safbwynt ymchwil yn ogystal â Chanolfannau Rhagoriaeth Tessa Jowell De a Gorllewin Cymru ar yr ochr glinigol.”

Dywedodd Dr James Powell, arweinydd Niwro-Oncoleg yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Mae’r bartneriaeth hon rhwng Ymchwil Canser Cymru a’r TJBCM yn newyddion gwych. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r ddau sefydliad a bydd dod â’r ddau at ei gilydd yn y modd hwn, gan gydweithio â’r gwasanaeth tiwmor ymennydd clinigol yng Nghymru, yn rhoi ysgogiad a gwelliant pellach ar gyfer triniaeth ac ymchwil tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn darparu manteision sylweddol a pharhaus i gleifion â thiwmorau’r ymennydd yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.”

Dr Jennifer Kahan, Niwro-Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser De Orllewin Cymru “Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer ymchwil tiwmor yr ymennydd, ac mae’r cydweithio rhwng Ymchwil Canser Cymru a Chenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell yn cynnig cyfle i Gymru fod yn rhan o’r ymchwil a datblygu. Bydd cael llais cryf y claf a chyfle cyfartal i gymryd rhan mewn datblygiadau arloesol ledled y DU yn gwreiddio Cymru a chleifion Cymru yn y broses o drawsnewid gofal tiwmor yr ymennydd.” Byddwn yn cynnwys y dyfyniad hwn yn y datganiad i’r wasg ar ein gwefan.

Ynglŷn ag Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell

Mae Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell (TJBCM) wedi ymrwymo i drawsnewid triniaeth ac ymchwil tiwmorau’r ymennydd yn y Deyrnas Unedig. Mae TJBCM yn cydweithio â’r llywodraeth, y byd academaidd, y GIG, elusennau, a grwpiau cleifion i gyflymu ymchwil, datblygu meddygaeth fanwl, gwella gofal ar gyfer cleifion tiwmorau’r ymennydd a hyfforddi a chysylltu’r gweithlu.

Ynglŷn ag Ymchwil Canser Cymru

Ymchwil Canser Cymru yw’r elusen ymchwil canser Gymreig, a’r unig elusen sy’n llwyr ymroi i ariannu ymchwil canser yng Nghymru. Mae bron 60 mlynedd o ymchwil wedi cyfrannu at welliannau mawr mewn gwasanaethau canser a chanlyniadau gwell i nifer ddi-rif o bobl. Mae Ymchwil Canser Cymru yn gweithio i sicrhau nad yw pobl Cymru yn gorfod derbyn canser fel clefyd sy’n bygwth bywyd, gan gynorthwyo’r ymchwilwyr a’r clinigwyr canser gorau i wneud darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid bywydau.